Gorsafoedd pŵer hyblyg sy'n cefnogi grid ynni sefydlog
Mewn byd sy'n ailfeddwl ei berthynas gydag ynni, mae Pŵer Cymru yn arwain y ffordd wrth ddatblygu a rheoli gorsafoedd pŵer hyblyg, gorsafoedd sy’n sefydlogi’r grid a thechnolegau batri.
Gwasanaethau Datblygu
Mae Pŵer Cymru yn ymgymryd â'r broses ddatblygu lawn, gan gynnwys darganfod safleoedd o ddiddordeb, prynu neu rentu tir, trefnu cysylltiadau trydanol, gweithio ar geisiadau cynllunio, dylunio, cydsynio, cyllid a diwydrwydd dyladwy.
Gwasanaethau Rheoli Adeiladwaith
Gall Pŵer Cymru reoli'r gwaith adeiladu wrth greu gorsafoedd pŵer hyblyg, gorsafoedd sefydlogrwydd grid, prosiectau storio batri a phrosiectau tyrbinau gwynt fydd yn amrywio mewn gwerth rhwng £5m-£100m. Rydym yn gweithio gyda chontractwyr sefydledig sy'n cwrdd â'n safonau diogelwch, ansawdd ac amgylcheddol llym, gan sicrhau bod pob prosiect yn cyflawni’r rhaglen a’r gyllideb.
Rheolaeth Asedau Gweithredol
Mae Pŵer Cymru yn ymgymryd â'r broses o rheolaeth gweithredol o asedau ynni yn llwyr, gan gynnwys cynnal a chadw, diogelwch, rheolaeth reoleiddio, masnachu a chyflenwadau ynni. Mae ein hadnoddau, ein prosesau a'n systemau effeithiol yn darparu pob dim o fonitro gweithrediadau 24/7 i adrodd costau.
Cydymffurfiaeth a Rheolaeth Rheoleiddio
Gall Pŵer Cymru arwain cydymffurfiaeth a rheolaeth reoleiddio asedau ynni, gan gynnwys materion masnachol megis refeniw a chysoni costau; mewn meysydd megis cyswllt polisi a lobïo a mecanweithiau dilysu setliadau o fewn y broses farchnad capasiti. Gallwn hefyd drefnu yswiriant i’n cwsmeriaid.
Rheolaeth / Optimeiddio Masnachol
Gall Pŵer Cymru reoli rheolaeth fasnachol asedau ynni trwy gamau amrywiol gan gynnwys cynllunio’r Strategaeth; Llwybr i'r farchnad; y berthynas â'r Grid Genedlaethol; Masnachu a chefnogaeth fasnachol gyda chontractio ar raddfa fawr.
Rheolaeth Costau
Mae gan Pŵer Cymru brofiad gwych o Reoli Costau a Nodi Arbedion a Gwelliannau. Gallwn eich helpu drwy gynnal dadansoddiad bylchau ac adolygu eich costau cyfredol - gallwn hefyd helpu drwy ddatblygu Cyllideb Gweithrediadau.
Rheolaeth Gorfforaethol ac Ariannol
Gall Pŵer Cymru gynorthwyo gyda rheolaeth ariannol a chorfforaethol eich asedau ynni. O wasanaethau craidd megis cyfrifeg, cadw llyfrau a rheoli arian parod i adroddiadau ariannol, cyfrifon ac archwilio. Gallwn hefyd gynnig gwasanaethau ysgrifenyddol rhagorol.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi uchelgais y DU o fod yn ddi-garbon erbyn 2050. Rydym ar flaen y gad yn y trawsnewidiad yma i greu system drydan wyrdd gyda'n prosiectau sefydlogrwydd grid o'r radd flaenaf, a'n prosiectau storio batris.
I ddeall mwy am sut rydym ni yn cefnogi prosiectau ynni newydd ledled y wlad - o'r cynllunio cychwynnol i reoli tymor hir - siaradwch ag aelod o dîm Pŵer Cymru.
Mae Pŵer Cymru yn fusnes sy'n berchen yn llwyr i’n staff. Mae'r perchnogaeth hyn yn darparu llwyfan cadarn ar gyfer sicrhau rhagoriaeth ac ymrwymiad gan ein staff er mwyn cael y canlyniadau gorau ar gyfer ein cwmni a'n cwsmeriaid.